Sut ydw i'n defnyddio'r peiriant hunan-ddychwelyd?
Llyfrgell Hugh Owen:
- Gwthiwch eich eitemau un ar y tro yn araf i mewn i’r peiriant.
- Arhoswch ennyd i'r peiriant brosesu'r eitem cyn gwthio eitem arall.
- Ar ôl dychwelyd yr eitemau i gyd, pwyswch ymadael.
Os oes problem wrth ddychwelyd eitem drwy’r peiriant, rhowch yr eitem ym mlwch wrth ymyl y peiriant ac mi fydd aelod o staff yn ei gasglu i'w ddychwelyd.
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol:
- Pwyswch y botwm Dychwelyd ar y sgrin.
- Rhowch eich llyfrau ar y pad (gallwch osod nifer o eitemau ar yr un pryd). Bydd y peiriant yn dechrau cofnodi'r llyfrau fesul un. Bydd rhestr o'r llyfrau a ddychwelwyd yn ymddangos ar y sgrin. Arhoswch eiliad i'r peiriant orffen prosesu pob eitem.
- Unwaith bydd y llyfrau i gyd wedi'u rhestru gallwch roi nhw ar y troli ar ochr dde'r peiriant. Byddwch yn derbyn derbynneb trwy e-bost yn manylu'r eitemau a ddychwelwyd.
Os oes problem wrth ddychwelyd eitem drwy’r peiriant, rhowch yr eitem ym mlwch ar ochr dde'r peiriant ac mi fydd aelod o staff yn ei gasglu i'w ddychwelyd. 
EN:3180