Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Gwelwyd 6 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Sep 11, 2026 Gyrfaoedd
I ddod o hyd i waith rhan-amser yn Aberystwyth, rhowch gynnig ar y canlynol:
Cadwch lygad ar ffenestri siopau o amgylch y dref, oherwydd bydd llawer o fusnesau lleol yn recriwtio drwy osod hysbyseb yn eu ffenest. Bydd angen i chi fod â CV yn barod ar gyfer hynny – dewch â chopi drafft i’r Hwb Gyrfaoedd yn Llyfrgell Hugh Owen er mwyn i ni fwrw golwg drosto (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm, yn ystod y tymor). Fel arall, gallwch anfon copi drwy ebost i gyrfaoedd@aber.ac.uk.
Os oes gennych gwestiynau am swyddi rhan-amser ar y campws, anfonwch ebost i hr@aber.ac.uk.