Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Mae gen i ddiddordeb mewn cael profiad gwaith. Pa opsiynau sydd ar gael i fi?
Gwelwyd 7 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Sep 11, 2026 Gyrfaoedd
Ewch draw i’n gwasanaeth galw heibio yn yr Hwb Gyrfaoedd yn Llyfrgell Hugh Owen, neu trefnwch Sgwrs Gyrfaoedd gyda Chynghorydd Gyrfaoedd i drafod eich opsiynau a’r cymorth sydd ar gael ar gyfer dod o hyd i brofiad gwaith.
Edrychwch ar ein Rhaglen Interniaeth Llwybrau Proffesiynol, sef cynllun i fyfyrwyr blwyddyn olaf sydd â phrofiad gwaith cyfyngedig.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn cael Cymorth i Baratoi am Yrfa, sy’n benodol ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi cael fawr ddim profiad gwaith ac sydd hefyd yn uniaethu â nodweddion a allai olygu eu bod yn wynebu rhwystrau wrth ddod o hyd i gyflogaeth.
Ystyriwch wneud gwaith gwirfoddol – fe welwch chi fod cyfleoedd yn cael eu hysbysebu ar gyrfaoeddABER, ac rydym hefyd yn argymell eich bod yn edrych ar y cyfleoedd a gaiff eu cydlynu gan dîm Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr.
Bydd y canllaw ynghylch Sut mae cael swydd heb unrhyw brofiad gan Prospects yn ddefnyddiol hefyd.