Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Sut y gallaf ddod o hyd i gynlluniau ar gyfer graddedigion a gwneud cais am le arnynt?
Gwelwyd 6 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Sep 11, 2026 Gyrfaoedd
Gallwch chwilio am gynlluniau ar gyfer graddedigion ar gyrfaoeddABER. Mae gwefannau defnyddiol eraill yn cynnwys Bright Network, Creative Access, Gradcracker, environmentjob, Prospects a Targetjobs.
Mae’r broses ymgeisio’n amrywio yn ôl y cynllun a’r cwmni, ond fel rheol bydd yn cynnwys ffurflen gais ar-lein, profion gallu, cyfweliadau a chanolfannau asesu.
Os oes gennych gwestiynau cyffredinol am gynlluniau ar gyfer graddedigion, gan gynnwys cymorth gyda’ch CV, eich llythyr eglurhaol neu’ch ffurflen gais, ewch draw i’r Hwb Gyrfaoedd yn Llyfrgell Hugh Owen i gael adolygiad llythyr eglurhaol (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm, yn ystod y tymor), neu anfonwch ebost i gyrfaoedd@aber.ac.uk.
I gael cymorth mwy manwl gyda’ch cais, gan gynnwys ffug-gyfweliad, dylech drefnu Sgwrs Gyrfaoedd drwy gyrfaoeddABER.