Dewch o hyd i'r ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin.
A oes unrhyw Ffeiriau Gyrfaoedd a digwyddiadau gyrfaoedd yn cael eu cynnal yn Aber?
Gwelwyd 6 o weithiau | 0 Hoffi'r cwestiwn hwn? 0 Ddim yn hoffi hwn? | Diweddarwyd diwethaf Sep 11, 2026 Gyrfaoedd
Oes, rydym yn trefnu Ffair Yrfaoedd fawr ar Gampws Penglais ym mis Hydref bob blwyddyn, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau cyflogwyr a gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn, sy’n cynnwys GwylGyrfaoedd ym mis Chwefror, digwyddiad Paratoi at y Dyfodol ym mis Mehefin a gweithdai Gyrfaoedd Ganol Wythnos dros amser tymor.
Bydd manylion yr holl ddigwyddiadau’n cael eu rhestru yn yr adran Digwyddiadau ar gyrfaoeddABER ac yn cael eu rhannu hefyd drwy ein negeseuon ebost a’n gweithgareddau hyrwyddo eraill.
Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd eich adran academaidd yn gwahodd cyflogwyr i siarad mewn darlithoedd a sesiynau addysgu eraill. At hynny, rydym yn hyrwyddo digwyddiadau, swyddi gwag a chyfleoedd gan ystod eang o gyflogwyr a sefydliadau drwy gyrfaoeddABER.